Mae Wayne wedi ei wahardd o'r ddwy gêm gynta' am chwarae'n fudur
Ni does gan Loegr obaith o ennill Pencampwriaethau Gwledydd Ewrop yng Ngwlad Pwyl a’r Wcrain, sy’n cychwyn amser te.

Dyna farn Mattie Holland, cyn-chwaraewr canol cae Gweriniaeth Iwerddon fu’n chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr am flynyddoedd.

Mi fydd y Saeson yn wynebu Ffrainc ddydd Llun, ac yna Sweden a’r Wcraen.

Ers i Roy Hodgson ddod yn reolwr y tîm mae arddull Lloegr o chwarae pêl-droed wedi body n fwy uniongyrchol gyda’r bêl yn cael ei chicio’n uchel o’r cefn at yr ymosodwr tal yn y tu blaen.

Mae yna ben draw i’r math yma o gêm, yn ôl Holland.

“Mae dwy gêm gynta’ teyrnasiad Hodgson yn awgrymu y bydd y Saeson yn chwarae yn ddigon tebyg i’r Iwerddon. Ni fydd wastad yn brydferth ond mi fyddan nhw’n sicr yn drefnus ac yn anodd i’w curo.

“Ond ni fydd yn ddigon i gipio’r gystadleuaeth yn fy marn i, ond bydd yn ddigon da i gael allan o’r grŵp ac i rownd yr wyth olaf.”