Luke Charteris
Mae’n hollbwysig fod Cymru yn cael dechrau da yn erbyn Awstralia yfory yn y gyntaf mewn cyfres o dair gêm brawf.

Dyna ddywed clo Cymru Luke Charteris wrth i’r Cymry geisio curo ar dir Waltzing Matilda am y tro cyntaf ers 1969.

Nid yw’r Cymry wedi curo unrhyw un o gewri rygbi Hemisffer y De oddi cartref ers chwarter canrif, ac os ydyn nhw am fwynhau’r daith i wlad yr Aborijini rhaid ennill y prawf cynta’ medd Charteris.

“Ar daith tri-phrawf mae’n hollbwysig ein bod yn cael cychwyn da,” meddai’r clo 29 oed sy’n holliach eto yn dilyn anaf.

“Mae sicrhau’r fuddugoliaeth yn y gêm gyntaf yn hollbwysig o ran sicrhau llwyddiant a mwynhad ar y daith. Rydan ni eisiau chwarae yn erbyn y goreuon a bod yn deilwng o’n buddugoliaethau.”

Maw Awstralia wedi newid naw o’r tîm a gollodd o driphwynt yn erbyn Yr Alban ddydd Mawrth, ac mi fydd tîm Rob Howley yn wynebu her a hanner.

Mae’r ornest yn cael ei dangos ar S4C am naw nos yfory.