Sylwebydd Rygbi Golwg360, Aled Price, sy’n bwrw golwg nôl dros dymor y rhanbarthau Cymreig.

Mae tymor rhanbarthau rygbi Cymru wedi dirwyn i ben, felly mae’n gyfle gwych i edrych nôl a chrynhoi. Mae wedi bod yn dymor hynod lwyddiannus i’r tîm cenedlaethol ond trwy’r flwyddyn rydym wedi cael awgrymiadau bod y rhanbarthau mewn trwbl bant o’r cae.

Yn wir, dim ond deufis yn ôl roedd hi’n ymddangos bod y rhanbarthau mewn trwbl ar y cae hefyd. Collodd y Gleision yn drwm yn chwarteri’r Cwpan Heineken ac roedd gobaith gorau Cymru yn y gynghrair, y Gweilch, newydd gael gwared ar eu hyfforddwyr yng nghanol y tymor. Serch hynny, mae’n debyg bod popeth nawr yn edrych tipyn yn well ar ôl i’r Gweilch gipio eu pedwaredd coron gynghrair.

Dyma fy asesiad i o dymor y pedwar rhanbarth felly.

Y Gweilch

Wedi colli’n drwm yn erbyn Biarritz, cael gwared â’r prif hyfforddwyr Scott Johnson a Sean Holley gan roi’r swydd i gyn chwaraewr efo dim profiad o hyfforddi ar lefel rhanbarthol. Dyna oedd sefyllfa’r Gweilch rai misoedd yn ôl. Pwy, bryd hynny, fyddai’n darogan y byddent yn mynd ymlaen i guro pencampwyr Ewrop bant o gartre i ennill y Pro12? Dim llawer.

Ers hynny mae Tandy wedi profi pawb yn anghywir gan ennill saith gêm yn olynol a thrawsnewid tîm mwyaf llwyddiannus Cymru’n llwyr.

Am yr ail dymor yn olynol, mae nifer o chwaraewyr yn gadael dros yr haf. Paul James, Tommy Bowe, Huw Bennett ac wrth gwrs, Shane Williams, i enwi rhai. Bydd ymadawiad Paul James yn anodd ymdopi ag ef – does neb wedi chwarae mwy o gemau i’r Gweilch ac mae’n rhan bwysig o brif arf y Gweilch, sef y sgrym.

Bydd methiant arall yn Ewrop yn siom, a bydd bywyd hyd yn oed yn anoddach tymor nesaf wrth iddynt ddisgyn i’r trydydd pot o dimau.

Serch hynny, mae pedair coron yn y gynghrair mewn naw tymor yn gamp arbennig ac wrth ystyried amgylchiadau ennill eleni, rhaid galw tymor 2011/12 yn un llwyddiannus.

Y Sgarlets

Roedd yn dymor cadarnhaol arall i’r tîm o’r gorllewin. Gwelliant parhaol ar y cae wrth iddynt redeg Brive yn agos yn chwarteri’r Cwpan Amlin, a dod yn agos at gyrraedd pedwar uchaf y PRO12. Y cwestiwn yw, pryd fydd y gwelliant yn troi’n llwyddiant o ran tlysau?

Mae’r gwelliant wedi bod yno i bawb ei weld. Gorffen, am yr ail dymor yn olynol, jyst tu allan i’r pedwar uchaf yn y gynghrair. Roedd gwelliant yn Ewrop hefyd wrth iddynt orffen yn ail yn eu grŵp – digon i wneud chwarteri’r Amlin. Roedd buddugoliaethau gwych oddi cartre’n erbyn Northampton a Castres ond wedyn anghysondeb, wrth golli gartref yn erbyn Northampton.

Fel pob rhanbarth, bydd rhaid i’r Sgarlets ymdopi â cholli chwaraewyr. Stephen Jones, Dom Day a Ben Morgan yw dim ond tri o’r enwau sy’n gadael. Nid yn unig hynny, ond mae tîm y sosban wedi colli eu prif hyfforddwr wrth i Nigel Davies symud i Gaerloyw.

Yr her i’r hyfforddwr newydd, Simon Easterby, fydd troi’r Sgarlets yn dîm sy’n cystadlu go iawn.

Y Gleision

Roedd popeth yn edrych yn dda i’r Gleision ym mis Chwefror. Roedd gêm chwarteri yn Ewrop i edrych ymlaen ato, ac roeddynt mewn lle da yn y PRO12. Yn sydyn, aeth popeth o’i le.

Collodd tîm y brifddinas yn drwm yn erbyn Leinster yn y chwarteri, ac yna colli 5 o 6 gêm yn y gynghrair i ddileu unrhyw obaith o deitl. Gorffennodd y Gleision yn seithfed yn y gynghrair – eu safle isaf ers 2005. Yn ogystal â methiant ar y cae gwelwyd torfeydd yn lleihau, chwaraewyr yn gadael a chwestiynau am y tîm hyfforddi o Justin Burnell a Gareth Baber. Nid y tymor gorau i’r Gleision!

Mae’r penaethiaid wedi gwneud newidiadau’n barod. Bydd rhan fwyaf o’r gemau tymor nesaf yn cael eu chwarae ar Barc yr Arfau ac mae Phil Davies wedi cael swydd pennaeth rygbi.

Mae tîm y Gleision dal yn un da, serch colli chwaraewyr fel Gethin Jenkins a Casey Laulala, a rhaid rhoi clod iddynt am gyrraedd y chwarteri yn Ewrop.

Dyw hi ddim wedi bod yn dymor hynod o lwyddiannus ond bydd pawb yn gobeithio bod symud nôl i Barc yr Arfau a dylanwad newydd Phil Davies yn gwneud gwahaniaeth y tymor nesaf. Bydd yn anodd bod yn waeth na misoedd olaf y tymor sydd newydd fod!

Y Dreigiau

Unwaith yn rhagor roedd yn dymor siomedig i berthynas dlotaf y rhanbarthau, y Dreigiau. Ar ôl gorffen tymor 2010/11 yn gryf, roedd tymor llawn cyntaf Darren Edwards yn un anodd. Fe orffennodd y Dreigiau’n nawfed yn y tabl – dim ond pedwar pwynt yn uwch na Chaeredin yn yr unfed safle ar ddeg. Daeth y tymor i ben yn siomedig wrth iddynt golli pedair gêm yn olynol – tair ar Rodney Parade.

Doedd bywyd yn Ewrop ddim llawer gwell yn y Cwpan Amlin wrth iddynt orffen yn drydydd yn eu grŵp. Roedd hynny’n cynnwys buddugoliaeth wych yn erbyn Perpignan, ond nid oedd hynny’n ddigon.

Y Dreigiau sy’n dioddef fwyaf yn sgil colli chwaraewyr wrth i’w capten Luke Charteris adael yn ogystal â’r chwaraewyr talentog Aled Brew a Jason Tovey.

Bydd bywyd yn anodd unwaith yn rhagor i Darren Edwards y tymor nesaf, yn enwedig ar ôl colli hyfforddwr y blaenwyr, Danny Wilson i’r Sgarlets. Mae’n anodd gweld sut all y Dreigiau wneud yn well tymor nesaf, ond bydd pawb yng Nghasnewydd eisiau gwellhad. Yn enwedig yn y PRO12 – eleni oedd eu safle isaf ers 2009.