Mae Undeb Rygbi’r Eidal wedi cyhoeddi mai Zebre fydd enw’r tîm sy’n camu i esgidiau Aironi fel ail dîm yr Eidal yn y RaboDirect PRO12 y tomor nesaf.

Bydd Zebre yn cystadlu yn y PRO12 ac yng Nghwpan Hineken tymor nesaf, gan chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm XXV Aprile yn Parma.

Collodd Aironi, oedd yn cael eu hyfforddi gan y Cymro Rowland Phillips, eu trwydded fis diwethaf am resymau ariannol.

Cyfarwyddwr rygbi y tîm fydd Zebre Roberto Manghi gyda  Christian Gajan yn gyfarwyddwr technegol.

Bydd Vincenzo Troiani yn hyfforddi ar y cyd a â chyn fewnwr Yr Eidal, Alessandro Troncon.

Bydd cyn fachwr Yr Eidal  Fabio Ongaro, a gyhoeddodd ei ymddeoliad yn ddiweddar, yn rheoli’r tîm.