Mae’r ymosodwr Jon Parkin wedi gadael clwb Dinas Caerdydd ar ôl i’r clwb a’r chwaraewr ddod i gytundeb i’w ryddhau.

Arwyddodd Parkin â chlwb y brifddinas o Preston North End am £100,000 yn ystod ffenestr drosglwyddo Ionawr 2011, gan sgorio yn ei gêm gyntaf i’r clwb.

Er hynny, dim ond dau ymddangosiad wnaeth yr ymosodwr mawr i Gaerdydd llynedd, ac fe dreuliodd ddiwedd y tymor ar fenthyg gyda Scunthorpe United.

Dechreuodd Parkin ei yrfa gyda Barnsley cyn  chwarae i Hartlepool United, Macclesfield Town, Hull City a Stoke City.