Tomi Morgan (llun o wefan CPD Tref Aberystwyth)
Mae gwaith adeiladu carfan rheolwr Aberystwyth, Tomi Morgan, yn parhau wrth iddi sicrhau llofnod yr amddiffynnwr Gavin Cadwallader.

Chwaraeodd Cadwallader i Aber am ddau dymor rhwng 2006 a 2008 cyn symud ymlaen i’r Drenewydd ac yna i’w glwb diweddaraf Airbus.

Fe wnaeth yr amddiffynnwr canol 131 o ymddangosiadau i Airbus, gan sgorio 18 o goliau, cyn cael ei ryddhau’n ddiweddar.

Cadwallader yw’r ail amddiffynnwr canol i Morgan arwyddo ar ôl sicrhau llofnod Stuart Jones o Lanelli’r wythnos diwethaf.

Thornton i aros

Newyddion da pellach i Morgan yw bod y chwaraewr canol cae, Sean Thornton, wedi ymrwymo i Aber am dymor pellach.

Roedd y cyn chwaraewr Sunderland a Tramere Rovers yn ffigwr dylanwadol yn y tîm llynedd, ac fe’i gwnaethpwyd yn gapten.

Chwaraeodd Thornton yn Uwch Gynghrair Lloegr i Sunderland, ac mae wedi ennill 12 o gapiau i dîm dan-21 Gweriniaeth Iwerddon.

Bydd ei brofiad yn siŵr o fod yn allweddol wrth i Morgan geisio sicrhau gwell hwyl ar Goedlen y Parc y tymor nesaf.