Martin Rose
Mae Llanelli wedi arwyddo Martin Rose o Bort Talbot wrth i’r dyfalu ynglŷn â dyfodol Rhys Griffiths barhau.
Roedd adroddiadau bod Griffiths, sydd wedi bod yn brif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru am y saith tymor diwethaf, yn symud yn ôl i’w gyn glwb Port Talbot.
Does dim wedi’i gadarnhau eto ond credir bod nifer o dimau’n awyddus i arwyddo’r ymosodwr, sydd heb gael cynnig cystal cytundeb gyda Llanelli eleni oherwydd toriadau i gyllideb Andy Legg.
Griffiths fydd yr ail enw amlwg i adael Stebonheath eleni ar ôl i Stuart Jones arwyddo i Aberystwyth yr wythnos diwethaf.
Ymdopi a’r sefyllfa
Mae arwyddo Rose yn arwydd clir bod Andy Legg yn paratoi am fywyd heb y sgoriwr toreithiog.
Mae gan Rose, sy’n 28 oed record dda ei hun fel sgoriwr rheolaidd – mae wedi sgorio 99 o goliau mewn 182 o gemau dros Bort Talbot.
Sgoriodd 14 o goliau mewn 28 o gemau llynedd.
Dechreuodd ei yrfa gyda Llanelli yn 2004 cyn treulio cyfnod gyda Grange Quins Caerdydd, cyn setlo gyda Phort Talbot.
Rose yw’r cyntaf o 4 chwaraewr newydd mae Legg yn gobeithio eu denu dros yr wythnos nesaf.
“Ry’n ni wedi bod yn cadw golwg ar Martin ers peth amser a rwy’n siŵr y gall wneud job i ni” meddai Andy Legg.
“Ry’n ni wedi gorfod gwneud toriadau sylweddol i’r gyllideb. Mae’n anodd ond does dim pwynt cwyno, rhaid ymdopi â’r peth” ychwanegodd.
“Dy’n ni ddim yn gallu cynnig yr un faint o arian i Rhys ag y mae wedi bod yn ennill dros y tymhorau diwetha’. Dwi ddim eisiau gweld ein prif sgoriwr yn gadael, ond fel’na ma’i.”