Fe fydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd yn gofyn i’w haelodau am eu barn am fwriad y clwb i newid eu lliw o las i goch ac i gael draig yn symbol, yn hytrach nag aderyn glas.

Mae rhai cefnogwyr yn bygwth troi cefn ar y clwb ond, mewn cyfarfod neithiwr, fe benderfynodd yr Ymddiriedolaeth alw ar i bawb dynnu gyda’i gilydd.

Wrth newid delwedd y clwb, mae’r perchnogion o Malaysia hefyd yn cynnig buddsoddi’n sylweddol ynddo.

Beirniadu’r perchnogion

Fe ddywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Tim Hartley, ei fod yn bersonol yn erbyn y newid ond bod rhaid derbyn y bydd y newid yn digwydd.

Ond wrth siarad ar Radio Wales, roedd yn feirniadol o’r perchnogion am fethu ag ymgynghori’n iawn gyda’r cefnogwyr ac am wneud y newidiadau ar ormod o frys.

Doedd dim digon o wybodaeth, meddai, i ddangos y byddai ennill cefnogaeth yn Asia yn ddigon i dalu am golli cefnogaeth leol.