Scott Williams
Fe fydd Awstralia’n anfon eu tîm cryfa’ i’r cae yn erbyn Cymru tros y Sul ar ôl colli i’r Alban y penwythnos diwetha’.

Mae Cymru hefyd wedi gwneud pedwar newid o’r tîm a ddechreuodd gêm y Gamp Lawn ar ddiwedd cystadleuaeth y Chwe Gwlad.

Mae’r canolwr, Scott Williams, yn ennill ei le yn y canol, wrth ochr ei gyd Scarlet, John Davies, a’r bachwr o dre’r Sosban, Ken Owens, yn aros yng nghanol y rheng flaen yn hytrach na dewis cynta’i ranbarth, Matthew Rees.

Bradley Davies a Luke Charteris sydd yn yr ail reng, gydag Alun-Wyn Jones ar y fainc – roedden nhw ymhlith yr 16 chwaraewr a deithiodd i Awstralia o flaen y lleill. O’r rheiny, dim ond Ashley Beck sydd heb fod yn dechrau’r gêm.

Dyw’r blaenasgellwr Justin Tipuric ddim hyd yn oed ar y fainc wrth i Gymru wynebu tîm cryfa’r Wallabies.

Maen nhw wedi gwneud wyth newid ers colli i’r Alban, a hynny’n cynnwys pum blaenwr a’r rheng flaen i gyd.

Tîm Cymru

Olwyr

Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Scott Williams, George North.

Haneri

Rhys Priestland, Mike Phillips.

Blaenwyr:

Gethin Jenkins, Ken Owens, Adam Jones, Bradley Davies, Luke Charteris, Dan Lydiate, Sam Warburton (Captain), Toby Faletau

Eilyddion: Matthew Rees, Paul James, Alun Wyn Jones, Ryan Jones, Lloyd Williams, James Hook, Ashley Beck