Mae llwyddiant tîm rygbi Cymru wedi arwain at fuddsoddiad mawr newydd yn y gêm trwy’r wlad.
Fe gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru y byddan nhw’n pwmpio £3.5 miliwn i mewn i’r gêm – y cyfraniad mwya’ o’i fath erioed.
Fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella Stadiwm y Mileniwm ac i gryfhau rygbi ymhlith clybiau llawr gwlad, ysgolion a cholegau.
Llwyddiant masnachol
Roedd y cyfraniad yn ganlyniad i lwyddiant masnachol yr Undeb Rygbi yn ystod y flwyddyn ddiwetha’, meddai’r Prif Weithredwr, Roger Lewis.
“R’yn ni eisiau denu a chadw chwaraewyr o bob oed, yn ogystal â hyfforddwyr, swyddogion, gwirfoddolwyr a chefnogwyr,” meddai.
“Bydd y cyllid newydd yma’n sicrhau bod y gêm yn gallu parhau i ddatblygu yn wyneb cystadleuaeth gan amrywiaeth o gampau a gweithgareddau eraill.
Peth o fanylion y gwario
Fe fydd £500,000 yn mynd at wella caeau clybiau bach a £200,000 yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion a cholegau gyda gwario hefyd ar wella’r 122 o flychau lletya yn Stadiwm y Mileniwm.
Yn ôl yr Undeb, mae posibilrwydd y bydd y ddyled ar Stadiwm y Mileniwm wedi’i thalu o fewn deng mlynedd.