Mae arweinydd Cyngor Caerdydd wedi croesawu’r addewid o fuddsoddiad newydd yng nghlwb pêl-droed y ddinas.
Ac fe ddywedodd Heather Joyce y byddai’r Cyngor yn cefnogi’r perchnogion o Falaysia hyd yn oed wrth iddyn nhw wneud newidiadau “heriol” fel newid lliw’r crysau o las i goch.
Fe ddaeth y cyhoeddiad am yr arian a’r newidiadau heddiw ac fe ddywedodd y cynghorydd ei bod wedi cyfarfod y perchennog Dato Chan Tien Ghee a chael sicrwydd ganddo am y buddsoddi.
Fe fydd hwnnw, meddai, yn cynnwys dod o hyd i ffynonellau incwm newydd, denu buddsoddiadau newydd, troi dyled yn gyfrannau, ystyried maes hyfforddi newydd ac ystyried ehangu’r stadiwm.
Roedd y buddsoddi’n bwysig o ran dyfodol economi’r ardal, meddai wedyn gan ddweud ei bod hefyd wedi trafod rhagor o fuddsoddi o Malaysia yn yr ardal.
Rhan o ddatganiad Heather Joyce
“Rwyf wedi siarad â Dato Chan Tien Ghee heddiw i groesawu’r cymorth ariannol sy’n cael ei roi ac amlinellodd ei ymrwymiad i’r clwb a’r ddinas i mi.
“Nodais yn glir fod y Cyngor yn cydnabod yr heriau y bydd y clwb yn eu hwynebu mewn perthynas â rhai o’r newidiadau sydd angen eu gwneud, ond byddwn yn cefnogi’r hyn sy’n cael ei gynnig yn llawn.
“Fel cyngor, rydym yn frwdfrydig dros fusnes ac yn cydnabod pwysigrwydd y buddsoddiad y mae’r perchnogion yn ei wneud a’r hyder sy’n gysylltiedig â’r clwb ledled y ddinas.