Robbie Deans
Mae hyfforddwr Awstralia, Robbie Deans, wedi addo “coesau newydd a meddylfryd newydd” pan fydd ei dîm yn wynebu Cymru yn stadiwm Brisbane ddydd Sadwrn.

Collodd Awstralia gêm agoriadol cyfres yr haf yn erbyn yr Alban 9-6 ddydd Mawrth, mewn tywydd erchyll.

Daeth i’r amlwg ar ôl y gêm bod rhai o’r chwaraewyr, gan gynnwys eu seren David Pocock, wedi dioddef o hypothermia.

Dyw Awstralia ddim wedi colli dwy gêm yn olynol ers Awst 2010, a dydyn nhw ddim wedi colli gartref yn erbyn Cymru ers 1969.

“Fe fydd Cymru yn edrych ymlaen at y gêm yma,” meddai Robbie Deans.

“Mae’n rhagflas o daith y Llewod y flwyddyn nesaf, maen nhw’n gwybod mai Warren Gatland fydd yr hyfforddwr, ac maen nhw eisiau ennill eu lle yn y tîm.

“Dydyn ni ddim yn meddwl ymlaen at daith y Llewod eto, dim ond at ddydd Sadwrn.

“Fe fyddwch chi’n gweld coesau newydd a meddylfryd newydd. Rhaid i ni weld cynnydd a chwarae yn llawer gwell nag yr oedden ni wedi yn erbyn yr Alban.

“Does yna ddim anafiadau newydd, ac fe fydd y chwaraewyr, gan gynnwys David Pockock, yn iawn unwaith y maen nhw wedi cynhesu rhywfaint.

“Fe fydd yr hinsawdd yn wahanol ac fe fydd y tactegau yn wahanol.

“Mae Cymru wedi bod yn paratoi ers mis ar gyfer y gêm ac maen nhw’n barod amdanom ni.”