Alan Shearer
Mae cyn-gapten tîm pêl-droed Lloegr, Alan Shearer, wedi dweud na fydd y wlad yn dod i’r brig ym mhencampwriaeth Ewro 2012 eleni.
Dywedodd y dylai Lloegr anelu at geisio cyrraedd rownd y pedwar olaf.
Wrth siarad cyn gadael am Wlad Pwyl yfory, dywedodd Alan Shearer: “Dydw i ddim yn meddwl y byddwn ni’n ennill”.
“Dyma’r tro cyntaf ers cyn cof i ni fynd i bencampwriaeth heb unrhyw obeithion.
“Doedd gennym ni ddim hyd yn oed hyfforddwr mis yn ôl ac mae yna sawl anaf wedi bod ers hynny.”
Roedd hefyd yn anghydweld â phenderfyniad yr hyfforddwr, Roy Hodgson, i beidio â chynnwys yr amddiffynnwr Rio Ferdinand yn y sgwad.
“Mae gan bob hyfforddwr yr hawl i ddewis pwy bynnag y mae ei eisiau,” meddai. “Ond yn fy marn i, fe ddylai Rio fod yn y tîm cyntaf.”