Mae staff diogelwch wrthi’n sgrinio 500,000 o bobol cyn y Gemau Olympaidd yn Llundain, yn ôl y Swyddfa Gartref.
Ac mae’n ymddangos y bydd 3,800 o swyddogion cudd MI5 ar ddyletswydd yn ystod y pencampwriaethau – dwywaith mwy o staff nag oedd gan yr asiantaeth adeg 9/11 yn 2001.
Fe ddaeth yr wybodaeth gan y Swyddfa Gartref sy’n dweud y bydd popeth posib yn cael ei wneud i sicrhau gemau diogel.
Mae’r hanner miliwn sy’n cael eu sgrinio yn dod o bob rhan o’r byd ac yn cynnwys athletwyr, hyfforddwyr, staff diogelwch eraill a gweithwyr cyfryngau.
“R’yn ni’n cynnal tjecs caeth ar bawb sy’n ceisio achrediad i’r Gemau,” meddai llefarydd. “Mae hynny er mwyn sicrhau bod y rheiny sy’n gweithio yn y Gemau yn addas i wneud hynny.”