Mae clwb pêl-droed Dinas Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd yr Adar Gleision yn chwarae mewn crysau coch, ac nid glas, y tymor nesaf ar ôl i berchnogion y clwb o Malaysia lansio delwedd newydd y clwb.

Daw’r penderfyniad ar ôl i benaethiaid y clwb gymeradwyo’r penderfyniad mewn cyfarfod o’r bwrdd.

Yn ogystal â’r crysau newydd, mae’r clwb wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu safle hyfforddiant newydd, a thalu’r ddyled hanesyddol i Langston. Maen nhw hefyd yn ystyried y posibilrwydd o ehangu Stadiwm Dinas Caerdydd.


Fe fydd logo newydd ar y crysau gyda llun o ddraig, ac aderyn glas oddi tano.

Dywedodd Cadeirydd y clwb Dato Chan Tien Ghee nad oedd yn fwriad ganddyn nhw “i ddinistrio unrhyw ran o hanes na diwylliant y clwb” tra bod y prif weithredwr Alan Whiteley wedi galw ar y cefnogwyr i fod yn “realistig” ynglŷn â’r newidiadau.