Mae mwy a mwy o ddyfalu o amgylch clwb pêl-droed Abertawe – tros reolwr newydd a dyfodol y chwaraewr canol-cae Gylfi Sigurdsson.

Yn ôl papur lleol y ddinas, cyn-chwaraewr rhyngwladol yr Iseldiroedd, Denis Bergkamp, yw’r ffefryn i arwain y clwb, er bod eraill yn wfftio hynny.

Mae cyn-chwaraewr Arsenal bellach yn ddirprwy yn un o brif glybiau ei wlad ei hun, Ajax, ac mae eraill, gan gynnwys Gus Poyet a Michael Laudrup hefyd yn cael eu crybwyll.

Ac mae yna awgrym arall fod y clwb yn siarad gydag Ian Holloway, rheolwr Blackpool, sydd o blaid yr un math o chwarae deniadol ag Abertawe.

Colli Sigurdsson?

Problem arall i’r clwb yw’r peryg o golli chwaraewr gorau ail hanner y tymor diwetha’ – Gylfi Sigurdsson.

Cyn i’r rheolwr Brendan Rodgers adael am Lerpwl, roedd hi’n ymddangos y byddai’n dod at yr Elyrch yn barhaol ar ôl dod ar fenthyg o Hoffenheim.

Bellach, mae’n ymddangos ei fod wedi dweud wrth bapur yn Ynys yr Iâ – ei wlad enedigol – ei fod yn annhebyg o fynd i’r Liberty bellach.

Mae Cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, wedi dweud eto fod ganddyn nhw restr fer o reolwyr posib a’u bod yn gwbl  glir am y math o berson sydd ei angen.