Shaun Edwards gyda Warren Gatland
Mae criw cyntaf o chwaraewyr Cymru eisoes wedi cyrraedd Awstralia ac wedi bod wrthi’n ymarfer yn Brisbane heddiw ar gyfer y gyfres tair gêm brawf y mis yma.
Fe deithiodd yr 16 chwaraewr yno dros y penwythnos o dan arweiniad Shaun Edwards, hyfforddwr yr amddiffynwyr, ac fel fydd y gweddill yn cyrraedd yno yn ystod oriau mân y bore gyda Rob Howley, prif hyfforddwr y daith, yn sgil anafiadau Warren Gatland.
Dywed Shaun Edwards fod ei chwaraewyr yn benderfynol o wyrdroi record drychinebus Cymru yn hemisffer y de.
“Mae’r tîm yma eisiau gwneud ei hanes ei hun a ddim am gael ei wangalonni gan ystadegau’r gorffennol,” meddai. “Maen nhw braidd yn flin nad ydyn nhw wedi curo Awstralia yn y gorffennol agos.”
Mae’n rhybuddio’i chwarawyr fodd bynnag fod yn rhaid iddyn nhw gyflymu eu gêm os ydyn nhw am ddal i fyny gydag Awstralia dros y tair wythnos nesaf.
“Rhaid inni sylweddoli ei bod hi’n gêm gyflymach yma a rhaid inni addasu i’r cyflymder,” meddai. “Mae’r Awstraliaid yn fedrus iawn, ac allwn ni ddim fforddio ildio modfedd iddyn nhw.”
Fe fydd y garfan gyfan yn cael ei sesiwn ymarfer gyntaf gyda’i gilydd ddydd Mercher.