Simon Easterby - hyfforddwr newydd y Sgarlets
Mae’r Sgarlets wedi cyhoeddi mai’r cyn flaenasgellwr, Simon Easterby, yw prif hyfforddwr newydd y rhanbarth.

Wedi wythnosau o ddyfalu, daeth y newyddion bore ‘ma fod Nigel Davies yn gadael i gymryd swydd fel Cyfarwyddwr Rygbi Caerloyw yng Nghynghrair Lloegr.

 Chwaraeodd Easterby i’r rhanbarth dros 200 o weithiau ac roedd yn hyfforddwr amddiffyn ar y tîm dan arweiniad Nigel Davies.

Bu Easterby’n gapten ar y rhanbarth am gyfnod ac roedd yn chwaraewr rhyngwladol gydag Iwerddon a’r Llewod.

Bydd Danny Wilson yn hyfforddwyr y blaenwyr, Mark Jones yn hyfforddwyr y cefnwyr a Brad Harrington yn hyfforddwr ffitrwydd.

“Dan arweiniad Nigel, mae datblygiad y grŵp hyfforddi wedi bod mor amlwg â datblygiad y chwaraewyr, gyda Simon a Mark yn cymryd perchnogaeth dros elfennau allweddol o’r perfformiad ar y maes” meddai Prif Weithredwr y rhanbarth Mark Davies.

“Gydag ychwanegiad Danny fel hyfforddwr uchel ei barch ymysg y blaenwyr, bydd y grŵp yma’n sicrhau ein bod yn dal i ddatblygu ym mhob ardal o’r gêm”.