20 o bwyntiau i James Hook
Cymru 30 – 21 Y Barbariaid
Llwyddod Cymru i drechu’r Barbariaid mewn gêm glos yn Stadiwm y Mileniwn heddiw.
Ail dîm Cymru oedd yn chwarae i bob pwrpas, gyda’r dewis cyntaf eisoes wedi hedfan i Awstralia i baratoi i herio’r Wallabies yr wythnos nesaf.
Er hynny, roedd yn gêm arwyddocaol wrth i’r blaenasgellwr Martyn Williams ddod o’r fainc i ennill ei ganfed cap, ac i Shane Williams chwarae ei gêm broffesiynol olaf yn erbyn ei famwlad.
Cymru ddechreuodd orau gan agor 13 pwynt o fantais.
Ciciodd James Hook ei dri phwynt cyntaf o gyfanswm o bymtheg gyda’r droed cyn i’r asgellwr 18 oed, Harry Robinson sgorio cais yn ei gêm gyntaf dros Gymru.
Er hynny, y Baa-baas oedd yn arwain o 14-13 erbyn yr hanner diolch i geisiadau gan yr haneri, Stephen Donald a’r Cymro Richie Rees.
Croeso i Martyn
Daeth Williams i’r cae 6 munud wedi’r hanner gan dderbyn croeso gwresog gan dorf Stadiwm y Mileniwn a chwaraewyr y ddau dîm.
Ei gyfraniad cyntaf bron a bod oedd tacl bwysig ar Shane Williams wrth i hwnnw ruthro’n glir tuag at linell gais Cymru.
Er i Williams ddangos nad yw ei allu wedi pylu’n ormodol, doedd hynny ddim yn ddigon i stopio’r ymwelwyr rhag ymestyn eu goruchafiaeth.
Donald groesodd am ei ail gais yn dilyn sgrym yng nghysgod y pyst Cymreig.
Ond, tarodd y cochion yn ôl gyda chais a throsiad i Hook.
Erbyn y munudau olaf roedd y Barbariaid yn chwarae yn eu harddull fentrus draddodiadol, a Shane Williams yntau’n chwilio am ddiweddglo dramatig arall.
Arweiniodd un rhediad olaf gan Shane at gais, ond nid i’w dîm ei hun wrth i Aled Brew rym gipio i wneud y canlyniad yn saff i’r tîm cartref.