Ched Evans
Mae cyn-bêldroediwr Sheffiel United, Ched Evans, a gafwyd yn euog o dreisio, wedi cyflwyno apêl yn erbyn y dyfarniad.

Cafodd y chwaraewr rhyngwladol 23 oed ei garcharu am 5 mlynedd am ymosod yn rhywiol ar ferch 19 oed ym mis Mai’r llynedd.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y llys apêl yn Llundain heddiw eu bod nhw wedi derbyn yr apêl yn erbyn y dyfarniad a’r ddedfryd.

Does dim dyddiad wedi ei osod ar gyfer y gwrandawiad eto.

Cyhoeddwyd ddydd Mercher ei fod wedi ei ollwng gan ei dîm Shieffield United.

Roedd Ched Evans wedi sgorio 35 gôl mewn 42 gêm i’r clwb y tymor diwethaf.

Y Ddedfryd

Cafodd Ched Evans ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar ôl ei gael yn euog o dreisio’r ddynes mewn gwesty ger y Rhyl fis Mai diwethaf.

Cyfaddefodd ei fod wedi cael rhyw gyda hi, ond dywedodd y ddynes wrth y rheithgor nad oedd ganddi unrhyw gof o’r digwyddiad – ac fe fynnodd yr erlyniad ei bod hi’n rhy feddw i roi ei chaniatâd i gael rhyw.

Cafwyd amddiffynnwr Port Vale, Clayton McDonald, 23, yn ddieuog o’r un cyhuddiad, er iddo yntau hefyd gyfaddef iddo gael rhyw gyda’r ferch.