Senedd Gwlad Groeg
Fe fydd arlywydd Gwlad Groeg yn cynnal trafodaethau eto heddiw gydag arweinwyr y pleidiau gwleidyddol er mwyn penodi llywodraeth dros dro i arwain y wlad i’r etholiadau newydd fis nesaf.
Mae’n dilyn methiant naw diwrnod o drafodaethau rhwng y pleidiau i ffurfio clymblaid, gan nad oedd yr un o’r pleidiau wedi ennill mwyafrif yn yr etholiadau ar 6 Mai.
Mae’r ansicrwydd gwleidyddol wedi cynyddu’r pryder am allu Gwlad Groeg i ymdopi â’r argyfwng ariannol yn y wlad ac a fydd yn parhau yn rhan o’r ewro.
Os na fydd arweinwyr y pleidiau yn gallu dod i gytundeb ynglŷn â phwy fydd yn arwain y Llywodraeth dros dro, yna fe fydd yr Arlywydd Karolos Papoulias yn penodi pennaeth un o lysoedd y wlad fel prif weinidog dros dro.