Keith Davies
Mae’r Senedd yn cynnal dadl brynhawn yma ar ôl i bwyllgor ddweud fod Aelod Cynulliad wedi “dwyn anfri ar y Cynulliad Cenedlaethol”.

Mae Aelod Cynulliad Llanelli, Keith Davies, wedi ymddiheuro am yr embaras a achosodd ar ôl noson mas ar 24 Ebrill. Roedd yn aros yng ngwesty pum seren Dewi Sant ym Mae Caerdydd ar gost y Cynulliad ac fe gwynodd rhai gwesteion eraill am ei ymddygiad ef a dynes a oedd wedi dychwelyd gydag ef er mwyn “mwynhau rhagor o ddiod.”

Prynhawn yma mae dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau, ond dim ond 15 munud sydd wedi cael ei osod ar gyfer y ddadl.

Bydd Mick Antoniw, Aelod Pontypridd, yn cynnig fod y Cynulliad yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Safonau ac yn “cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad y canfuwyd methiant i gydymffurfio ac y dylid ceryddu Keith Davies AC.”

“Adlewyrchu’n wael”

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol “fod yr adroddiad yn siarad dros ei hun” ac na fydd neb o’i phlaid hi yn siarad yn y ddadl.

Ychwanegodd Kirsty Williams fod y digwyddiad yn adlewyrchu’n wael ar y Cynulliad a dyna pam fod yr adroddiad “wedi cael ei eirio yn y modd y gwnaeth.”

Dywedodd mai mater i’r Blaid Lafur oedd cosbi Keith Davies ai peidio.

Nid oedd Andrew RT Davies yn gallu dweud ddoe a fyddai rhywun o’i blaid ef yn siarad yn y ddadl, ac nid oedd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr mewn sefyllfa i ddweud mwy y bore ‘ma.

Plaid Cymru am gyfrannu i’r ddadl

Cadarnhaodd Leanne Wood y bydd gan Blaid Cymru “rai cyfraniadau i’w gwneud” i’r ddadl heddiw.

Nid oedd am ofyn i Keith Davies ymddiswyddo ond roedd yn cydnabod y byddai “Plaid Cymru mewn safle cryf iawn yn Llanelli i ymladd ymgyrch” petai Keith Davies yn ildio’i sedd.