Mae Prif Weithredwr cymdeithas adeiladu’r Principality, Peter Griffiths, am adael ei swydd ar ôl 10 mlynedd wrth y llyw.

Fe fydd y broses nawr yn dechrau i chwilio am olynydd iddo.

Y Principality, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, yw’r seithfed gymdeithas adeiladu fwyaf yn y DU, gyda 52 o ganghennau yng Nghymru.

Dywedodd Peter Griffiths ei fod wedi llywio’r cwmni “drwy un o’r cyfnodau economaidd mwyaf heriol erioed.”