Y Cynghorydd Dyfed Edwards
Mae Plaid Cymru wedi gwneud cytundeb i reoli Cyngor Gwynedd gyda’r grŵp Llafur er mwyn “rhoi sefydlogrwydd” i’r sir.

Mae gan Blaid Cymru 37 cynghorydd ar Gyngor Gwynedd ers yr etholiadau ar 3 Mai – un yn brin o fwyafrif. Penderfynodd grŵp Plaid Cymru mewn cyfarfod ym Mhorthmadog i dderbyn cynnig o gytundeb gan y grŵp Llafur, sy’n cynrychioli pedair ward yn Arfon.

“Er ein bod wedi bod yn trafod gyda’r grŵp o gynghorwyr Annibynnol hefyd, doedd dim cynnig ar y bwrdd ar gyfer trafodaeth gan grŵp y Blaid,” meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.

“Fe benderfynwyd derbyn cynnig grwp Llafur i weithio gyda Plaid ar faniffesto blaengar ac uchelgeisiol ar gyfer  Gwynedd,” ychwanegodd Dyfed Edwards.

Opsiwn arall i Blaid Cymru oedd denu’r ddau Ddemocrat Rhyddfrydol a fyddai wedi rhoi mwyafrif simsan o ddwy bleidlais iddyn nhw.

Dan y drefn newydd fe fydd deg o gynghorwyr yn aelodau o Gabinet Cyngor Gwynedd. Fel yng ngweddill siroedd Cymru byddan nhw’n derbyn cyflog blynyddol o £28,780, o’i gymharu gyda chyflog o tua £12,000 ar gyfer cynghorydd o’r meinciau cefn.

“Sefydlogrwydd mewn cyfnod o gyni”

“Mae Grwp Plaid Cymru wedi penderfynu fod angen sefydlogrwydd ar sir Gwynedd yn ystod y cyfnod yma o gyni,” meddai Dyfed Edwards.
“Bydd y cynnig gan Lafur yn rhoi’r gefnogaeth ychwanegol yr ydym ei hangen er mwyn llywodraethu yn gyfrifol ac effeithiol yn ogystal â chynnig mewnbwn ar yr agenda ar gyfer Gwynedd am y pum mlynedd nesaf,” ychwanegodd.
“Rydym yn llwyr yn erbyn y toriadau sydd yn cael eu gosod arnom gan y Ceidwadwyr yn Llundain. Ond rydym yn benderfynol o wneud y gorau dros ein sir, er gwaethaf cyllidebau sy’n crebachu.

“Wrth weithio gyda Llafur, gallwn nawr dorchi llewys a gwneud ein gorau dros ein etholwyr,” meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards.