Roedd na newyddion da i Lywodraeth San Steffan heddiw wrth i nifer y diwaith ostwng 45,000 i 2.6 miliwn yn y chwarter hyd at fis Mawrth, yr isaf ers yr haf y llynedd.
Yn Nghymru roedd na ostyngiad o 1,000 i 132,000.
Mae nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal diwaith i lawr 13,700 i 1.59 miliwn.
Roedd nifer y rhai mewn gwaith wedi cynyddu 105,000 i bron i 30 miliwn ond roedd hynny’n bennaf oherwydd cynydd yn nifer y gweithwyr rhan amser.
Mae 8 miliwn o bobl bellach mewn swyddi rhan amser, y nifer uchaf ers i gofnodion ddechrau ym 1992.