Mae enwad Cristnogol wedi cael “ei siomi’n fawr” ar ôl i undeb meddygol ddweud nad yw hi’n amserol i orfodi gofynion ieithyddol ar gyrff iechyd Cymru.
Roedd corff y BMA, sy’n cynrychioli dros 5,000 o feddygon yng Nghymru, yn ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth y Cynulliad ar strategaeth yr iaith Gymraeg ym maes iechyd a gofal – Mwy na Geiriau.
Dywedodd y corff fod gofal iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i rai cleifion, ond fod modd “gwella profiad cleifion o ofal fwy trwy gyfeirio ymdrechion ac arian at daclo rhestrau aros a chanfod y staff proffesiynol gorau”, yn hytrach nag ar ddarpariaeth Gymraeg.
“Nid yw’r amser na’r hinsawdd ariannol yn iawn ar gyfer gorfodi gofynion ieithyddol ar gyrff gwasanaeth iechyd sy’n anelu at ofal o safon byd-eang ond sydd mewn gwirionedd yn bell o’r nod yna.”
“Hawl sylfaenol”
Mewn ymateb i sylwadau’r BMA mae Undeb yr Annibynwyr wedi dweud “fod hawl sylfaenol gan bobl i gael gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysbyty neu gartref preswyl yng Nghymru.”
“Mae pobl yn teimlo’n llawer mwy cysurus o gael gofal yn eu hiaith eu hunain. Yn anffodus, prin yw’r ystyriaeth a roddir i hyn yn gyffredinol. Mae’r ddarpariaeth naill a’i ddim yn bod o gwbl, neu’n fympwyol ac ysbeidiol.
“Mae angen i awdurdodau iechyd a staff meddygol, gofalwyr a rheolwyr cartrefi preswyl ddeall bod iaith yn rhan hanfodol o fywyd person.
“Yn ogystal â bod yn fater o hawl sylfaenol i Gymry Cymraeg yn eu gwlad eu hunain, mae cleifion gyda dementia a phobl sydd wedi dioddef strôc yn aml yn colli’r gallu i siarad eu hail-iaith – sef Saesneg.
“Mae’n bwysig cofio hefyd fod nifer o blant yn uniaith Gymraeg i bob pwrpas. Gall peidio â darparu gwasanaeth ar gyfer y fath bobl yn Gymraeg fod yn fethiant clinigol neu feddygol. Mae dewis iaith yn elfen hanfodol o’r therapi.”
Dywed Undeb yr Annibynwyr fod nifer o’i aelodau wedi ymateb yn gadarnhaol i strategaeth ‘Mwy na Geiriau’ yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Mwy na Geiriau
Daeth cyfnod ymgynghori’r cynllun Mwy na Geiriau i ben ar 30 Ebrill.
Bwriad y Fframwaith Strategol yw “cryfhau gwasanaethau Cymraeg yn y maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.”
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn “cydnabod fod y gallu i ddefnyddio eu hiaith eu hunain yn debygol o fod yn sylfaenol i ofal llawer o siaradwyr Cymraeg.”