Andrew R T Davies
Mae clymblaid wedi cael ei ffurfio yn Sir Fynwy sy’n ddrych o’r hyn sy’n bodoli yn San Steffan – y Ceidwadwyr yn arwain gyda chefnogaeth aelodau o’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Enillodd y Ceidwadwyr 19 sedd ar y cyngor, tair sedd yn brin o fwyafrif, ac maen nhw wedi ffurfio clymblaid gyda grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol, sydd â thri chynghorydd.

“Mae hyn yn newydd gwych i Sir Fynwy a rwy’n croesawu’r glymblaid  yn wresog,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies.

“Dan arweinyddiaeth y Ceidwadwyr daeth Cyngor Sir Fynwy yn esiampl o gyngor tryloyw gyda’r holl wariant dros bunt yn cael ei wneud yn hysbys i’r cyhoedd.

“Mae’r ffaith fod arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ar y cyngor yn parhau yn sicrhau fod pobol sir Fynwy yn cael y gwasanaethau gorau a gwerth am arian.”

Dywedodd Nick Ramsay, Aelod Cynulliad Ceidwadol Mynwy, ei bod hi’n bwysig fod y grwpiau yn bwrw iddi ac yn parhau i wella gwasanaethau cyhoeddus.