Ratko Mladic
Fe fydd yr achos yn erbyn arweinydd lluoedd Serbia, Ratko Mladic yn cychwyn yn Yr Hâg heddiw, 20 mlynedd ar ôl y rhyfel yn Bosnia.

Mae Mladic, sy’n 70 oed, yn wynebu 11 cyhuddiad, gan gynnwys hil-laddiad, yn ymwneud â’r rhyfel rhwng 1992-95 pan fu farw 100,000 o bobl.

Mae disgwyl i’r achos barhau am gyfnod hir.