Francois Hollande
Mae Francois Hollande wedi dod yn Arlywydd Ffrainc ar ôl iddo dyngu llw mewn seremoni ym Mhalas Elysee ym Mharis.
Francois Hollande, 57 yw arweinydd Sosialaidd cyntaf Ffrainc ers i Francois Mitterrand adael ym 1995, ac fe fydd yn olynu Nicolas Sarkozy.
Fe fydd Hollande yn cwrdd â Angela Merkel yn yr Almaen yn ddiweddarach heddiw i drafod argyfwng yr ewro. Fe fydd llawer o sylw yn cael ei roi i’r berthynas rhwng y ddwy wlad wrth i’r argyfwng waethygu.
Mae’r Arlywydd wedi addo adfer economi Ffrainc a mynd i’r afael â dyledion y wlad.
Ond y bore ma fe gyhoeddwyd nad oedd economi Ffrainc wedi tyfu o gwbl yn chwarter cynta’r flwyddyn gan godi pryderon bod y wlad yn wynebu dirwasgiad.
Roedd cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) wedi aros yn ei unfan o fis Ionawr i fis Mawrth, yn ôl ystadegau gan gwmni Insee.
Yn y cyfamser mae economi’r Almaen wedi tyfu 0.5% yn nhri mis cyntaf y flwyddyn.