Prif Weithredwr S4C Ian Jones
Fe fydd Prif Weithredwr S4C, Ian Jones  yn cyfarfod â staff BBC Cymru fory yn Llandaf.

Mae memo gan Gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, at staff BBC Cymru, sydd wedi dod i law Golwg360, yn amlinellu’r prif bynciau trafod. Bydd y cyfarfod yn digwydd ym mwyty canolfan ddarlledu’r BBC yn Llandaf, gyda Golygydd Gwleidyddol y gorfforaeth yng Nghymru, Betsan Powys, yn cadeirio’r sesiwn.

Yn y memo, mae Rhodri Talfan Davies yn dweud fod y gwaith yn mynd rhagddo o geisio penderfynu sut y bydd S4C a BBC Cymru yn gallu cydweithio’n agosach yn y dyfodol. Ac mae’r neges yn cydnabod na fu hynny’n waith mor rhwydd â hynny yn y gorffennol.

Yn ôl Rhodri Talfan Davies, fe fydd dau brif bwnc trafod yn sail i’r cydweithio ar gyfer y dyfodol:

* Cydweithio er mwyn cynnig gwell rhaglenni i’r gynulleidfa. Mae’n defnyddio dwy raglen ddogfen ddiweddar ar Ryfel y Malfinas, a oedd yn gywaith rhwng BBC Cymru ac S4C, fel enghraifft o’r hyn sy’n bosib. Efallai y bydd yna ddadlau ynglŷn â phwy sydd â’r dylanwad golygyddol, meddai, ond fe ddylid gwneud pob ymdrech i wneud i hyn weithio.

* Bydd cydweithio hefyd yn gwneud i ffwrdd â’r dyblygu swyddi sy’n gwastraffu arian y gellid ei ddefnyddio ar wasanaethau. Mae’n cydnabod fod rhannu adeiladau yn “botensial” ar gyfer y dyfodol a’i fod yn “opsiwn y mae S4C wedi addo ymchwilio iddo ar y cyd â ni”. Ond ar gyfer y misoedd nesaf, mae ymchwiliad dichonoldeb eisoes ar y gweill i weld sut y mae modd arbed arian, a bydd yr adroddiad hwnnw’n dod i law ym mis Gorffennaf.