Meic Stevens
Mae un o gantorion mwya’ poblogaidd Cymru yn bwriadu dathlu ei 70ain pen-blwydd trwy gynnal arddangosfa o’i ddarluniau ym Mhen Llyn.
Bydd paentiadau o waith Meic Stevens – y swynwr o Solfach – i’w gweld yn Oriel Glyn-y-weddw, Llanbedrog o’r penwythnos nesa’ ymlaen, a hynny er mwyn nodi ei fod yn cyrraedd oed yr addewid yn ystod 2012.
“Mae y rhan fwyaf ohonon ni’n gyfarwydd â thalentau cerddorol Meic Stevens,” meddai Oriel Glyn-y-weddw, “ond cariad celfyddydol cynta’ Meic oedd tynnu llun, nid chwarae gitâr.
“Fe gafodd sylw yn gynnar, ac fe dderbyniodd ysgoloriaeth i fynychu coleg celf Caerdydd ar ddiwedd y 195oau. Yn hwyrach ymlaen, fe wnaeth ei enw fel cerddor ac mae ei ganeuon roc a rôl bellach wedi ei wneud yn eicon Cymreig.
“Nawr, mae cyfle i’r cyhoedd weld ei gelf am y tro cynta’ mewn arddangosfa fydd yn llwyfannu gwaith a gynhyrchwyd dros yr hanner canrif ddiwetha’ – o sgets pensil ac inc o ddyddiau coleg, i baentiadau acrylig mawr a gynhyrchwyd ar Ynys Vancouver, Canada, yn 2011.”
Mae arddangosfa Meic Stevens yn cynnwys dros 40 o ddarnau o waith gwreiddiol.