Vidal Sassoon
Fe fu farw’r cynllunydd gwallt enwog Vidal Sassoon yn ei gartref yn Los Angeles yn 84 oed – roedd wedi bod yn dioddef o lewcemia.
Cafodd Sassoon ei eni yn Llundain ac roedd yn enwog am gynllunio steil gwallt y “bob” yn ystod y 60au.
Yn ystod ei yrfa roedd wedi trin gwallt aelodau o’r teulu brenhinol, sêr y byd ffilm a modelau.
Roedd hefyd yn weithgar yn yr ymgyrch ar ran cyn-filwyr Iddewig ac ym 1982 fe sefydlodd y Vidal Sassoon International Centre for the Study of Anti-Semitism.