Streic darlithwyr y llynedd
Bydd 30,000 o weithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru yn mynd ar streic heddiw er mwyn protestio yn erbyn cynlluniau i newid y drefn bensiynau.

Daw’r streic yn sgil y ffrae ddiweddaraf dros newidiadau i gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus. Mae’r gweithwyr yn dadlau y bydd yn rhaid iddyn nhw gyfrannu mwy, gweithio’n hirach  a derbyn llai o bensiwn.

Un o’r undebau fydd yn cymryd rhan yn y streic heddiw yw Undeb Colegau a Phrifysgolion Cymru, sydd â 5,000 o aelodau ar draws Cymru.

Bydd y streic gan aelodau’r Undeb yn effeithio colegau addysg bellach a phrifysgolion Cymru a ffurfiwyd wedi 1992, gan gynnwys prifysgolion Casnewydd, y Drindod Dewi Sant, a Phrifysgol Glyndŵr.

Mae’r streic heddiw yn cael ei gynnal law yn llaw ag undebau’r PCS a Unite.

Mae aelodau Undeb Colegau a Phrifysgolion Cymru wedi bod ar y llinell biced ers 7.30am y bore ma, ac mae aelodau hefyd yn bwriadu mynd i’r ralïau sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam.

Yn ôl Cadeirydd Cyngor yr undeb yng Nghymru, John Watkins, mae’r undeb wedi troi at streicio fel yr “opsiwn olaf.” Ond mae’n mynnu fod gweithredu yn anochel erbyn hyn.

“Mae aelodau Cymru wedi cael eu taro gan gynnydd mewn cyfraniadau pensiwn o £45 allan o’u pecynnau cyflog, a hynny er mwyn cael llai o fanteision, a gyda chynnydd pellach i ddod – doedd gynnon ni ddim llawer o opsiynau eraill,” meddai.

Wrth y llinell biced

Bydd y 30,000 o weithwyr ar draws Cymru sy’n mynd ar streic heddiw yn picedu sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, swyddfeydd treth, swyddfeydd Llywodraeth Cymru, ysbytai a swyddfeydd y sector cyhoeddus.

Mae’r PCS yn dweud fod Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi addo wrth yr undeb na fydd eu haelodau Cynulliad yn croesi’r llinell biced i mewn i’r Senedd nac i swyddfeydd y llywodraeth.

Ar draws Prydain gyfan, mae disgwyl y bydd dros 400,000 o weithwyr yn mynd ar streic i gyd heddiw, wedi eu sbarduno gan Araith y Frenhines ddoe yn cadarnhau bwriad Llywodraeth San Steffan i fwrw ymlaen â newidiadau i’r system bensiynau.