Mae manylion wedi cael eu datgelu heddiw ynglŷn â sut roedd swyddog o’r CIA wedi llwyddo i dwyllo al Qaida am gynllun i ffrwydro bom ar awyren.
Roedd gwasanaethau cudd yn yr UDA wedi cael gwybod fis diwethaf bod al Qaida yn Yemen yn gobeithio cynnal ymosodiad ar awyren oedd yn teithio i America drwy ddefnyddio math newydd o fom.
Ond mae’n ymddangos bod y dyn oedd i fod i ffrwydro’r bom yn gweithio i’r CIA a’i fod wedi rhoi’r ddyfais i’r awdurdodau, yn ôl swyddogion yn yr UDA a Yemen.