Bydd y ddau ambiwlans awyr a gafodd eu hatal rhag hedfan ddoe yn sgil pryderon am eu diogelwch yn cael ail-ddechrau hedfan heddiw.

Ddoe, bu’n rhaid i ddau o’r tri hofrennydd sy’n cyflenwi gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru gael eu hatal rhag hedfan tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i’w diogelwch.

Bu’n rhaid cymryd y camau brys i’w hatal rhag hedfan ddoe wedi i archwiliad arferol o’r hofrennydd EC135 ddarganfod craciau bach yn yr hofrennydd, yn debyg i’r nam a ddarganfuwyd ar hofrennydd tebyg yn yr Alban ym mis Chwefror.

Mae’r hofrennydd EC135 yn cael ei ddefnyddio gan ambiwlans awyr Cymru yng Nghaernarfon ac  Abertawe.

Ond neithiwr fe ddaeth cadarnhad gan Wasanaethau Awyr Bond, sy’n darparu hofrenyddion, peirianwyr a pheilotiaid Ambiwlans Awyr Cymru, y byddai’r hofrenyddion yn gallu dychwelyd i’r awyr o 7am y bore ’ma.

Yn ôl Gwasanaethau Awyr Bond, maen nhw wedi penderfynu ail-ddechrau hedfan yr hofrenyddion ar ôl derbyn sicrwydd gan y gwneuthurwyr, Eurocopter, ei bod hi’n ddiogel i wneud, ond y byddan nhw’n parhau i gadw golwg ar yr hofrenyddion.