Mae bron i 50 o bobol wedi cael eu lladd wrth gymryd llwybrau cyflym ar draws llinellau rheilffordd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl Network Rail, a’r mwyafrif o’r tresmaswyr hyn yn ddynion.

Er mwyn tynnu sylw at y broblem, mae Network Rail wedi galw am help pencampwr rasio 400m dros y clwydi, Dai Greene, er mwyn rhybuddio dynion am y peryglon o groesi cledrau rheilffordd.

O’r 49 marwolaeth ddamweiniol ar y cledrau yng Nghymru rhwng 1 Ebrill y llynedd a 31 Mawrth eleni, roedd 88% yn ddynion, a dros draean o’r rheiny rhwng 16 a 25 oed.

Mae Dai Greene wedi cymryd rhan mewn fideo ar-lein fel rhan o’r ymgyrch  o’r enw Track Test, sy’n cael ei lansio heddiw.

Yn y fideo, mae’r athletwr yn ei chael hi’n anodd rhedeg ar hyd y cledrau oherwydd glaw, saim, a rhwystrau eraill ar y lein, sy’n ceisio dangos os na all athletwr mor brofiadol â Dai Greene ddianc o lwybr trên, nad oes disgwyl i unrhyw un arall lwyddo.


Dai Greene
Dai Greene
yn rhan o’r ymgyrch

Wrth drafod yr ymgyrch, dywedodd y Cymro, a enillodd y fedal aur yn y pencampwriaethau byd yr haf diwethaf, nad oedd ei hyfforddiant rhedeg yn “cyfri am ddim” wrth geisio rhedeg ar gledrau’r tren.

“Mae’r profiad wedi dangos i fi faint o beryglon sydd yna ar y cledrau – a’r mwyafrif, doedd gen i ddim syniad amdanyn nhw.

“Ond dwi’n gobeithio y bydd y ffilm yma yn helpu Network Rail i ddangos i bobol nad yw hi’n werth cymryd y risg,” meddai.

Yn ôl Dylan Crowther, un o’r problemau mawr yw perswadio dynion fod risg i’w gael mewn croesi’r cledrau.

“Dydi llawer o ddynion ifanc ddim yn ystyried bod cymryd llwybr byr ar draws y cledrau yn risg go iawn, ac y gallen nhw ddianc o ffordd unrhyw drên, ond mae’r ffigyrau marwolaeth yn dangos eu bod yn anghywir,” meddai.

Dyw ffigyrau Network Rail ddim yn cynnwys hunanladdiad na marwolaethau wrth groesfannau tren.

Ond mae’r ffigyrau yn dangos y gallai nifer y marwolaethau fod llawer yn uwch, wrth i swyddogion tren gofnodi 445 o achosion eraill lle’r oedd pobol bron iawn â chael eu taro wrth dresmasu ar y cledrau.

Roedd yr achosion hyn yn cynnwys enghreifftiau o bobol yn croesi’r cledrau ar ôl sylwi bod eu tren yn gadael o’r platfform ochr draw, yn neidio i lawr er mwyn nôl ffonau symudol neu waledi, a cherdded gerllaw’r lein er mwyn cymryd llwybr byrrach adre.