Fe fydd pecyn o bolisïau i helpu teuluoedd yn cael eu cyhoeddi yn Araith y Frenhines heddiw.
Yn ôl Downing Street fe fydd y mesur yn ei gwneud yn haws i fabwysiadu, yn rhoi mwy o help i ddisgyblion gydag anghenion arbennig ac yn rhoi gwyliau mwy hyblyg i rieni.
Wrth gyhoeddi ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae’r Llywodraeth Glymblaid yn gobeithio y bydd yn rhoi hwb iddyn nhw yn dilyn canlyniadau siomedig yn yr etholiadau llywodraeth leol wythnos ddiwethaf.
Ddoe fe fu David Cameron a Nick Clegg yn amddiffyn y Glymblaid gan fynnu ei bod yn bwysicach nag erioed i geisio mynd i’r afael â dyledion y wlad a hybu’r economi.
Ymhlith y mesurau eraill heddiw mae disgwyl mesur i newid rheolau ar gyflogau arweinwyr busnes, ail-strwythuro’r banciau, diwygio pensiynau’r sector cyhoeddus, rheoleiddio’r farchnad ynni, a gwaharddiad newydd i yrwyr sydd dan ddylanwad cyffuriau.
Mae disgwyl newidiadau posib i Dŷ’r Arglwyddi, mesur mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod yn pwyso amdano ond sydd wedi achosi rhwyg ymhlith Aelodau Seneddol Ceidwadol.
Maen nhw’n dadlau ei fod yn “wallgof” i wastraffu amser yn trafod newidiadau cyfansoddiadol pan mae’r DU mewn dirwasgiad ac y dylid blaenoriaethu materion fel rhagor o ysgolion gramadeg, torri trethi a chynnal refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd.