Mae dau o’r tri ambiwlans awyr yng Nghymru wedi cael eu hatal rhag hedfan oherwydd pryderon am ddiogelwch ar ôl i nam gael ei ddarganfod.
Dywed Bond Air Services bod eu hofrenyddion 22 Eurocopter EC 135 wedi cael eu hatal am y tro ar ôl i nam gael ei ddarganfod mewn ambiwlans awyr yn yr Alban.
Mae’n golygu na fydd hofrenyddion gogledd a de Cymru yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, a bydd hofrennydd canolbarth Cymru yn gwasanaethu’r holl wlad.
Daethpwyd o hyd i grac ar un o’r hofrenyddion ac o ganlyniad mae Bond wedi penderfynu atal eu hofrenyddion rhag hedfan am resymau diogelwch. Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni mae ei blaenoriaeth oedd diogelwch ac mae nhw’n aros i Eurocopter gwblhau eu hymchwiliad.
Mae tua 1,000 o’r hofrenyddion yn cael eu defnyddio led led y byd, gan gynnwys gwasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.