Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau bod pumed dyn wedi cael ei ei gyhuddo mewn cysylltiad â gwrthdrawiad ffordd angheuol ar 14 Ionawr  yn Neganwy.

Bu farw  Kody Christian Dutton, 13 oed, pan darodd y cerbyd roedd yn teithio ynddo yn erbyn car arall yn Rhodfa Vardre, Deganwy. Roedd Kody yn teithio yn sedd gefn y car MG ar y pryd.

Mae’r dyn 19 oed, gafodd ei gyhuddo ar 2 Mai, yn ychwanegol at y pedwar dyn arall, rhwng 15 a 19 oed,  gafodd eu cyhuddo ar 28 Ebrill.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu’r Gogledd mae nhw i gyd wedi eu cyhuddo o gymryd cerbyd yn anghyfreithlon ac fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno ar 21 Mai.