David Cameron a Nick Clegg
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi mynnu heddiw bod y Glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol “mor bwysig ac angenrheidiol” nawr ag yr oedd pan ddaeth y ddwy blaid at ei gilydd ddwy flynedd yn ôl.

Wrth ymddangos gyda’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg heddiw, mynodd David Cameron y byddai’r Llywodraeth yn parhau i wneud toriadau “anodd” i fynd i’r afael â dyledion y wlad.

Ond mae wedi addo cefnogi “teuluoedd sy’n gweithio’n galed ac yn gwneud y peth iawn.”

Mae David Cameron wedi pwysleisio ei ymrwymiad i’r Llywodraeth Glymblaid, yn dilyn canlyniadau siomedig y ddwy blaid yn yr etholiadau lleol wythnos ddiwethaf.

Dywedodd Nick Clegg y byddai’r Llywodraeth yn parhau a’i hymdrechion i hybu twf yr economi yn ogystal â lleihau dyledion y wlad, ond fe rybuddiodd na ddylai pleidleiswyr ddisgwyl canlyniadau dros nos.

Ychwanegodd David Cameron bod y ddwy blaid wedi rhoi eu gwahaniaeth barn o’r neilltu er budd y wlad.