Leanne Wood
Mae aelod blaenllaw o Blaid Cymru wedi dweud bod angen i’w blaid fod yn fwy “proffesiynol” os am apelio i bleidleiswyr.

Dywedodd Simon Thomas AC ei fod yn siomedig gyda chanlyniadau’r blaid yn ystod yr etholiadau llywodraeth leol wythnos ddiwethaf. Fe gollodd Plaid Cymru mwy na 40 o seddi.

Mewn cynhadledd i’r wasg heddiw, dywedodd Simon Thomas na ddylai canlyniad yr etholiadau fod yn adlewyrchiad o arweinydd newydd y blaid, Leanne Wood.

Ond roedd yr AC Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cyfaddef bod angen newid delwedd Plaid Cymru i ddenu mwy o bleidleiswyr.

Dywedodd bod pobl yn bryderus ac yn anhapus ynglŷn â’r sefyllfa economaidd ac wedi troi at y Blaid Lafur.

“Mae’n gwestiwn teg i ofyn pam nad oedd pobl wedi troi at Plaid ond does gen i ddim ateb,” meddai.

Ond dywedodd bod pobl yn gwybod, wrth bleidleisio dros y Blaid Lafur eu bod nhw’n “anfon neges glir i San Steffan” ond nad oedd pobl yn teimlo bod hynny’n digwydd wrth bleidleisio dros Blaid Cymru.

Y llynedd, roedd Plaid wedi cynnal adolygiad ar ôl colli pedair sedd yn etholiadau’r Cynulliad. Ymhlith yr argymhellion a wnaed mewn adroddiad oedd ystyried ail-frandio’r blaid er mwyn ei gwneud yn fwy atyniadol i siaradwyr di-gymraeg.

Mae’r blaid hefyd yn gobeithio y bydd penodi Leanne Wood yn arweinydd yn denu pleidleiswyr.

Ond mae rhai aelodau traddodiadol y blaid yn poeni bod ei daliadau gweriniaethol yn gwneud y blaid yn llai atyniadol. Yn ddiweddar fe wrthododd Leanne Wood gwrdd â’r Frenhines yn ystod ei hymweliad â de Cymru.

Ond dywedodd Simon Thomas ei bod hi’n rhy gynnar i Leanne Wood gael dylanwad ar y canlyniadau.

“Ond mae’n rhaid i ni fod yn fwy proffesiynol. Nid gwaith yr arweinydd yn unig yw hyn, ond y blaid gyfan.”