Jane Hutt
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo Llywodraeth San Steffan o gynllunio i gyflwyno tâl rhanbarthol ar sail gwybodaeth wallus heddiw.
Yn ôl y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, mae gan Lywodraeth Cymru dystiolaeth newydd ar dâl marchnad leol a rhanbarthol sy’n dangos fod dadleuon Llywodraeth y DU “yn wallus ac nad ydynt yn rhoi’r darlun cyflawn o bell ffordd.”
Mae’n ymddangos fod y dystiolaeth “newydd” hyn wedi dod i glawr wedi i Brif Economydd Llywodraeth Cymru gael golwg ar y sefyllfa.
“Mae’r dystiolaeth yr ydym yn ei chyhoeddi yn dangos bod cyfiawnhad i’r gwrthwynebiad eang i gyflogau sector cyhoeddus rhanbarthol,” meddai Jane Hutt y prynhawn yma.
Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu cyflwyno’r cynigion ar gyfer tâl rhanbarthol o flaen y Trysorlys a’r Cyrff Adolygu Cyflogau cyn hir, gyda’r gobaith o gyflwyno system o gyflogau sy’n amrywio o ranbarth i ranbarth er mwyn adlewyrchu costau byw yn well, yn ôl Clymblaid San Steffan.
‘Anghywir’
Ond mynnodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru heddiw fod eu gwybodaeth yn anghywir.
“Yn groes i’r hyn y mae’r Trysorlys yn ei ddweud, nid oes achos cadarn dros feddwl bod y bwlch rhwng cyflogau’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yn fwy yng Nghymru na mewn rhannau eraill o’r DU. Ni allwn, ychwaith, weld unrhyw dystiolaeth fod cyflogau sector cyhoeddus ‘anghymesur’ wedi bod yn effeithio’n andwyol ar gyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru.
“Yn wir, ers datganoli a than y dirwasgiad diweddar, mae Cymru wedi bod yn perfformio’n well na’r DU o ran y twf yn nifer y swyddi yn y sector preifat – mae hyn yn mynd yn gwbl groes i farn y Trysorlys,” meddai.
Mae hi hefyd yn cyhuddo’r Trysorlys o “anwybyddu” rhai ffactorau pwysig yn y ddadl dros gyflwyno tâl rhanbarthol.
“O ychwanegu’r rhain, nid oes tystiolaeth glir bod gwahaniaeth yng nghyfraddau cyflogau ar draws y sector cyhoeddus cyfan,” meddai.
“Yn wir, os oes gwahaniaeth yng nghyfraddau cyflog y sector cyhoeddus, ymysg y gweithwyr sydd ar gyflogau isel y mae hynny, a menywod ar gyflogau isel yn arbennig.
“Ni fyddaf yn ymddiheuro am y camau yr ydym wedi eu cymryd yng Nghymru i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Byddai’n gwbl annheg targedu’r grwpiau hyn o weithwyr sector cyhoeddus drwy leihau neu rewi eu cyflogau.”
Toriadau tâl rhanbarthol yn ‘niweidiol’
Yn ôl Jane Hutt, mae’r dystiolaeth sydd wedi ei ddatgelu gan y Llywodraeth yn dangos y byddai tâl rhanbarthol yn niweidio economi Cymru, a hynny heb fod angen.
“Byddai ymdrechion Llywodraeth y DU i beri toriadau i gyflogau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn niweidiol iawn yn yr amgylchiadau presennol. Bydd unrhyw leihad o ran cyflogau yn arwain at lefelau is o wario ac, o ganlyniad, mae’n debygol iawn o gael effaith ar economi Cymru gan arwain at golli swyddi,” rhybuddiodd.
“Byddai polisi o dâl marchnad leol neu ranbarthol yn y sector cyhoeddus yn niweidiol yn economaidd ac yn peri rhwyg gymdeithasol yng Nghymru.
“Byddai gorfodi cyflogau is ar ein cymunedau difreintiedig, yn ystod cyfnod o straen economaidd a chynnydd yn y bwlch rhwng cyflogau menywod a dynion, yn wael i Gymru ac yn niweidiol i’r DU cyfan.
“Gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn edrych ar ein tystiolaeth ac na fyddant yn parhau i ddilyn y trywydd hwn.”