Yr Athro Dafydd Jenkins
Bu farw un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw Cymru ar Gyfreithiau Hywel Dda dros y penwythnos, ag yntau yn 101 oed.
Roedd yr Athro Dafydd Jenkins yn gyn-fargyfreithiwr, yn gyn-ddarlithydd yn Adran y Gyfraith Prifysgol Aberystwyth, ac yn dal Cadair bersonol yn Hanes Cyfraith a Chyfraith Cymru o 1975 hyd ei ymddeoliad yn 1978.
Roedd hefyd yn un o’r rhai mwyaf blaenllaw yn yr ymgyrch i sicrhau statws cyfartal i’r Gymraeg yn y llysoedd.
O ran ei arbenigedd ar Gyfreithiau Hywel Dda, fe gyhoeddodd ‘Llyfr Colan’ yn 1963, ‘Cyfraith Hywel’ yn 1970, a ‘Damweiniau Colan’ yn 1973.
Ond roedd ei ddiddordebau yn mynd tu hwnt i fyd y gyfraith hefyd, ac mae ei lyfrau eraill yn cynnwys dau lyfr taith ‘Ar Wib yn Nenmarc’ (1951) ac ‘Ar Wib yn Sweden’ (1959), a llyfr ar hanes llosgi’r ysgol fomio ym Mhenyberth, ‘Tân yn Llyn’ (1937).
Roedd ganddo hefyd ddiddordeb llenyddol, a chyhoeddodd gyfrol o’r enw ‘Y nofel: datblygiad y nofel Gymraeg ar ôl Daniel Owen’ yn 1948.
Bu hefyd yn gyd-sylfaenydd ar gylchgrawn ‘Heddiw’, gydag Aneirin Talfan Davies, ac yn olygydd ar y cylchgrawn am gyfnod.
‘Ymladdwr diwyro dros y Gymraeg’
Ganed Dafydd Jenkins ar Ddydd Gŵl Dewi, 1911, yn Llundain, i rieni oedd yn hanu o Geredigion.
Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Sidney Sussex, Caergrawnt.
Wrth dalu teyrnged i un o’u “cefnogwyr ffyddlon” heddiw, dywedodd y Llyfrgell Genedlaethol ei fod yn “ymladdwr diwyro dros y Gymraeg.”
“Roedd hefyd yn ddarllenydd a chefnogwr ffyddlon i’r Llyfrgell Genedlaethol am ddegawdau ers iddo ymaelodi â’r llyfrgell yn yr 1930au.
“Bu’n ŵr gwadd arbennig yn nathliadau canmlwyddiant gosod carreg sylfaen y llyfrgell y llynedd.”
Bu farw’r Athro Dafydd Jenkins ddydd Sadwrn. Bydd ei angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth, ddydd Llun nesaf 14 Mai am 2.30pm ac yna’r gladdedigaeth ym mynwent Capel Penrhiw, Joppa, Llanrhystud. Bydd y te angladd yn cael ei gynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol am 4.30pm.