Gareth Williams
Mae Comisiynydd Scotland Yard wedi rhybuddio MI6 nad yw uwchlaw’r gyfraith wrth iddo gyhoeddi cynlluniau i gynnal profion DNA wrth ymchwilio i farwolaeth yr ysbïwr o Fôn, Gareth Williams.
Fe fydd adolygiad fforensig annibynnol yn rhan o’r ymdrech i geisio datrys y dirgelwch tu ôl i farwolaeth Gareth Williams, y cafwyd hyd i’w gorff mewn bag yn y bath yn ei fflat yn Pimlico, Llundain yn 2010.
Mae Bernard Hogan-Howe hefyd wedi dweud wrth dditectifs am ddelio’n uniongyrchol â MI6. Yn y gorffennol mae ditectifs wedi gorfod cael cymorth swyddogion gwrthderfysgaeth wrth geisio cael datganiadau a thystiolaeth gan MI6.
Mae’n debyg bod Bernard Hogan-Howe wedi ei siomi gan fethiant MI6 i gyflwyno tystiolaeth i’r swyddog fu’n cynnal yr ymchwiliad, a ddaeth i law yn ystod y cwest i farwolaeth Gareth Williams wythnos ddiwethaf.
Dywedodd Bernard Hogan-Howe na fydd cwmni LGC, fu’n gyfrifol am gamgymeriadau ar ddechrau’r ymchwiliad gwreiddiol, yn cynnal yr adolygiad y tro hwn.
Ac mae’n debyg na fydd y Ditectif Prif Arolygydd Jackie Sebire, fu’n cynnal yr ymchwiliad ers mis Awst 2010, yn rhan o’r ymchwiliad newydd gan ei bod wedi cael ei dyrchafu i swydd arall.
Mae aelodau o’r gwasanaethau cudd wedi dod dan y chwyddwydr ers i’r crwner yn y cwest ddweud ei bod yn sicr bod rhywun arall wedi bod yn bresennol yn y fflat ac wedi cloi Gareth Williams yn y bag.
Dywedodd Dr Fiona Wilcox ei bod yn debygol bod yr ysbïwr wedi ei “ladd yn anghyfreithlon” a bod posibilrwydd bod y gwasanaethau cudd wedi bod yn gysylltiedig â’i farwolaeth.
Mae arbenigwyr fforensig yn gobeithio taflu goleuni ar y mater drwy gynnal profion DNA ar liain gwyrdd oedd yn y gegin yn fflat Gareth Williams.