Mae cwmni o Sweden wedi cael caniatâd i adeiladu fferm wynt enfawr ar safle pwll glo rhwng Castell-nedd ac Aberdâr.
Fe fydd datblygiad Pen y Cymoedd yn cynnwys 76 o dyrbinau a fydd yn cynhyrchu 299 megawat o drydan gan gyflenwi 206,000 o gartrefi.
Mae Llywodraeth San Steffan wedi rhoi sêl bendith i gwmni Vattenfall i godi’r fferm wynt ar yr amod y bydd modd parhau i gloddio am lo ar y safle yn y dyfodol.
Dywedodd y Gweinidog Ynni Charles Hendry mewn datganiad: “Mae ffermydd gwynt ar y tir yn chwarae rôl bwysig wrth i ni geisio datblygu ynni ein hunain.
“Dyma’r math rhataf o ynni adnewyddol ac mae’n lleihau ein dibyniaeth ar danwydd o dramor.
“Fe fydd y prosiect yn ne Cymru yn cynhyrchu llawer iawn o drydan adnewyddol ac yn darparu pecyn buddiannau sylweddol i’r gymuned leol.”
Dywed Vattenfall y gallai’r datblygiad “fod yn werth mwy na £1bn i Gymru.”