Hywel Williams AS
Mae Aelod Seneddol Arfon wedi annog pobol i anfon llythyron o wrthwynebiad at Scottish Power heddiw, cyn iddyn nhw fynd i drafod dyfodol 32 o swyddi yng Nghaernarfon yfory.
Mewn llythyr agored, mae Hywel Williams AS yn galw ar gwsmeriaid a darpar-gwsmeriaid i gysylltu â’r cwmni er mwyn datgan eu gwrthwynebiad i symud y 32 swydd i Wrecsam.
Yn ôl Hywel Williams, fe fydd y cynllun i symud yn cael effaith andwyol ar y teuluoedd sy’n dibynnu ar y swyddi, ac ar y ddarpariaeth iaith Gymraeg gan Scottish Power.
“Bydd hyn, yn fy marn i, yn peryglu eu gwasanaeth Cymraeg,” meddai cyn annog pobol i “feddwl am y 32 teulu sydd ar fin colli eu bywoliaeth.”
Mae disgwyl y bydd Scottish Power yn cael cyfarfod mewnol “pwysig” yfory er mwyn trafod y mater, ond mae Hywel Williams yn gobeithio y bydd anfon llythyron o wrthwynebiad atyn nhw yn helpu’r achos dros gadw’r swyddi.
Yn ei lythyr drafft ar gyfer ei anfon at Scottish Power mae’n dweud fod symud y swyddi i Wrecsam yn “annheg” ar y staff yng Nghaernarfon.
“Nid yw’n ymarferol iddynt fudo i Wrecsam ar fyr rybudd, ac mae taith ddyddiol o 150 o filltiroedd yn amlwg yn gwbl afresymol.”
‘Effaith ar yr iaith Gymraeg’
Dywed hefyd ei fod yn poeni am yr effaith ar yr iaith Gymraeg.
“Mae’r 32 swydd yma’n hynod o werthfawr i’r economi leol. Mae Caernarfon yn un o ardaloedd craidd yr iaith Gymraeg, a byddai unrhyw ergyd economaidd i’r dref hefyd yn ergyd i’r iaith Gymraeg ei hun.”
Mae’r cynlluniau yn rhan o broses o ad-drefnu a gyhoeddwyd gan y cwmni ym mis Mawrth, ac mae disgwyl iddyn nhw effeithio 32 o weithwyr yng Nghaernarfon, a 10 gweithiwr yn eu swyddfa yn Queensferry, Sir y Fflint.
Y gred yw y bydd y gweithwyr yn cael cynnig i symud i swyddfeydd eraill yn Wrecsam a Warrington.
Yn ôl y cwmni, mae’r cynlluniau i symud gweithwyr wedi eu cyflwyno yn sgil adolygiad manwl o swyddfeydd ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae disgwyl i’r cyfnod ymgynghori gyda gweithwyr ac undebau llafur ar y cynlluniau hyn ddod i ben ar ddiwedd mis Mehefin.