Leighton Andrews
Mae cynllun gwerth £400,000 wedi cael ei gyhoeddi heddiw er mwyn gwella safonau a chyrhaeddiad ym maes addysg Cymraeg ail iaith.

Yn ôl y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Leighton Andrews, mae safonau a chyrhaeddiad mewn Cymraeg ail iaith yn is nag mewn pynciau eraill yn yr ysgol gynradd ac nid oes digon o ddisgyblion yn dod yn eu blaen yn dda mewn ysgolion uwchradd.

Yn rhan o’r cynllun, dros bedair blynedd, bydd hyfforddiant penodol yn cael ei gynnig i athrawon, bydd mwy o gyfleoedd yn cael eu creu i ddisgyblion ddefnyddio’r iaith y tu allan i wersi Cymraeg a bydd arferion da yn cael eu lledaenu, meddai Leighton Andrews.

‘Diffyg hyder’

Yn ôl Estyn, y rheswm pam fod safonau a chyrhaeddiad mewn Cymraeg ail iaith yn is nag mewn pynciau eraill yn yr ysgol gynradd yw nad yw athrawon yn ddigon hyderus ac nid oes ganddyn nhw’r wybodaeth i gyflwyno’r Gymraeg ar lefel sy’n briodol o uchel.

Mewn ysgolion uwchradd nid oes digon o gyfleoedd ar gael i ddisgyblion wella a defnyddio’r Gymraeg y tu allan i wersi Cymraeg, yn ôl Leighton Andrews.

Mae rhyw draean o ddysgwyr sydd heb unrhyw gymhwyster cydnabyddedig yn y Gymraeg ac mae mwy o ymgeiswyr ar gyfer TGAU Cymraeg ail iaith yn dilyn y cwrs byr lle mae cyrhaeddiad yn isel.

‘Rhannu arferion gorau’

Dywedodd Leighton Andrews: “Gwyddom nad yw safonau o ran addysg Cymraeg ail iaith mor uchel ag y dylent fod a bydd y cynllun hwn yn fan cychwyn i ni fynd i’r afael â hynny.

“Rydw i am sicrhau bod ysgolion yn rhannu arferion gorau ynghylch addysgu Cymraeg fel ail iaith a bod athrawon, yn arbennig mewn ysgolion cynradd, yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni.

“Bwriad y cynllun hefyd yw rhoi mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio ac ymarfer yr iaith y tu allan i wersi Cymraeg. Mae hyn yn hanfodol er mwyn magu eu hyder i ddefnyddio’r iaith yn eu bywyd bob dydd.

“Mae’r cynllun yn cefnogi’r amcanion yn ein Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a gweledigaeth y llywodraeth hon yw gweld y Gymraeg yn ffynnu.”

Bwriad y cynllun

Mae’r cynllun yn bwriadu rhannu arferion da a datblygu canllawiau i gyflwyno Cymraeg ail iaith ar lefel Ysgolion Cynradd; annog mwy o addysgu cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a gwella sgiliau ieithyddol a methodolegol athrawon.

Mae hefyd yn bwriadu sicrhau bod gan ysgolion uwchradd yr adnoddau cywir i adeiladu ar y Gymraeg a ddysgwyd mewn ysgolion cynradd ac adolygu asesiadau a chymwysterau Cymraeg ail iaith er mwyn gweld pa gyfleoedd sy’n bodoli i sicrhau bod y cymwysterau presennol yn addas at y diben.