Ffred Ffransis
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio’r corff arolygu addysg ac ysgolion heddiw am ddweud y dylid torri ar nifer y llefydd gweigion yn ysgolion Cymru.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo Estyn o “geisio gosod agenda gwleidyddol,” trwy annog ad-drefnu a chau ysgolion.

Mewn adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw gan Estyn, mae’n ymddangos fod nifer y llefydd dros ben mewn ysgolion wedi cynyddu ers 2006.

Yn ôl Estyn, mae’r arian sy’n mynd at gynnal y llefydd gwag hyn yn clymu adnoddau prin a allai gael eu rhannu rhwng disgyblion eraill.

‘Tanseilio democratiaeth’

Ond mae llefarydd addysg Cymdeithas, Ffred Ffransis, yn mynnu mai ceisio gwthio agenda gwleidyddol y mae’r corff arolygu.

“Dim ond ychydig o ddyddiau sydd ers yr etholiadau lleol, ac mae’r corff anetholedig Estyn eisoes wedi ceisio gosod yr agenda gwleidyddol trwy ddweud wrth awdurdodau lleol fod yn rhaid cau ysgolion i gael gwared ar leoedd gwag.

“Dyma ran o batrwm cyfoes o gyrff anetholedig yn tanseilio democratiaeth gan honni o hyd ‘nad oes dewis’,” meddai.

Yn ôl Ffred Ffransis, mae ymchwil a gomisiynwyd 18 mis yn ôl gan gynghrair o grwpiau cymunedol HYB yn dangos na fyddai cau pob un ysgol sydd â llai na 90 o blant yn arbed dim mwy na 2% o’r gyllideb addysg, ar ôl ystyried y costau ad-drefnu.

“Dylai’n hawdurdodau lleol newydd weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau lleol i ateb y problemau,” meddai Ffred Ffransis.

“Mewn ardal wledig, gall olygu cyflwyno ystod eang o wasanaethau cyhoeddus o’r ysgol leol a dad-gomisiynu gofod dros ben at bwrpasau eraill. Mewn ardaloedd eraill, gallai ysgolion trefol Cymraeg ffederaleiddio ag ysgolion pentrefol Cymraeg cyfagos i ddarganfod capasiti ychwanegol dros dro.

‘Angen teilwra’r atebion’

Dywedodd bod angen teilwra’r atebion at bob ardal benodol, a gadael hynny yn nwylo’r awdurdodau lleol – gan wfftio argymhelliad Estyn o gael un ffon mesur gyffredin ar draws Cymru i fesur cost bob lle gwag.

“Bydd datrysiad gwahanol ym mhob ardal a chyfrifoldeb cynghorwyr yw gweithio gyda’r bobl a’u hetholodd, nid dilyn gorchmynion Estyn yn wasaidd,” meddai.

“Fodd bynnag rydyn ni’n cefnogi datganiad Estyn nad yw awdurdodau lleol wedi ymchwilio i effaith ariannol ac addysgol ad-drefnu yn y gorffennol. Hollol anghyfrifol yw parhau i gau ysgolion heb ymchwil o’r fath.”