Simon Thomas
Mae llefarydd Plaid Cymru ar addysg  wedi galw am gael un system arholi i osod cymwysterau TGAU a Lefel A mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru ar gyfer pynciau prif-ffrwd, fel modd o safoni’r system.

Daw galwad Simon Thomas yn dilyn pryderon gafodd eu codi  gan y corff  sy’n goruchwylio cymwysterau, OFQUAL, fod papurau arholiad yn dod yn haws ac yn  llai o her i ddisgyblion.

Mae AC Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi dweud ei fod yn bryderus iawn am  “farchnadeiddio” cynyddol addysg .  Esboniodd fod byrddau arholi yn cystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn i ysgolion gymryd eu cyrsiau nhw.

Dywedodd  Simon Thomas: “Rwyf eisiau gweld cyflwyno cymwysterau safonol ledled y genedl fel nad yw byrddau arholi yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ac yn ceisio ‘gwerthu’ cyrsiau i ysgolion.

‘Dewis y cyrsiau hawsaf’

“Y pryder  yw y gall marchnadeiddio’r system gymwysterau arwain at demtio ysgolion i ddewis y cyrsiau ‘hawsaf’ yn hytrach na’r rhai sydd yn rhoi prawf ar alluoedd eu disgyblion.”

Dywedodd bod  ysgolion yn teimlo dan bwysau cynyddol fod angen iddyn nhw “farchnata” eu hunain i rieni ac o ganlyniad  yn chwilio am gyrsiau fydd yn sicrhau canlyniadau.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu yn glir a phendant i ddiwygio’r system addysg, i’w gwneud yn addas at y diben yn hytrach nac yn addas at y farchnad.

“Er mwyn darparu cymwysterau sydd yn mesur galluoedd disgyblion, rhaid i ni fesur cyrhaeddiad addysgol. Yn benodol, ry’n ni  angen system sydd yn sicrhau y dyfernir cymwysterau yn unig i fyfyrwyr gyda’r lefelau priodol o lythrennedd a rhifedd. Byddwn yn ceisio camau difrifol a phendant gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth.”