John Sessions
Mae Prifysgol Bangor wedi datgelu heddiw fod un o actorion y ffilm The Iron Lady ymhlith y rhai fydd yn derbyn anrhydeddau’r brifysgol yn ystod y seremonïau graddio blynyddol eleni.

Bydd yr actor John Sessions, ynghyd â saith arall, yn cael eu hanrhydeddu yn ystod y seremonïau sydd i gael eu cynnal rhwng 14 a 20 Gorffennaf ym Mangor.

Yn ôl Cofrestrydd y Brifysgol, Dr David Roberts, mae’r rheiny sy’n cael eu hanrhydeddu heddiw yn ychwanegu at “y traddodiad maith o gydnabod cyraeddiadau dynion a menywod o bob math o wahanol feysydd.

“Dydy eleni ddim yn eithriad,” meddai, “ac rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno’r Cymrodoriaethau er Anrhydedd.”

‘Wrth fy modd’

Yr wyth sy’n cael eu gwahodd i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd eleni yw John Sessions, Yr Athro Malcolm David Evans OBE, Yr Athro Steve Jones, Terence David Hands CBE, Bleddyn Wynn-Jones, Yr Athro Tony Jones CBE, FRCA, Yr Athro Catherine McKenna, a’r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones.

Wrth ymateb i’r gwahoddiad i dderbyn cymrodoriaeth, dywedodd yr actor a’r awdur John Sessions nad oedd “erioed wedi anghofio fy nyddiau ym Mangor ac mae’r ffaith nad ydi Bangor wedi fy anghofio i wedi fy nghyffwrdd yn fawr iawn. Bendith Duw ar fy alma mater!”

Dywedodd Terry Hands, Cyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru a chyn-reolwr y Royal Shakespeare Company am 20 mlynedd, ei fod “wrth fy modd i gael fy anrhydeddu yn y modd hwn ac yn edrych ymlaen at feithrin cysylltiadau cryfach fyth efo’r Brifysgol wych yma.”

Dyma grynodeb o gefndir bob un:

Yr Athro Malcolm David Evans OBE – Athro Cyfraith Ryngwladol, Prifysgol Bryste. Mae’n cael ei anrhydeddu am wasanaethau i’r Gyfraith.

Yr Athro Steve Jones – Athro Geneteg, University College London (UCL), awdur arobryn ym maes y gwyddorau a darlledwr. Mae’n cael ei anrhydeddu am wasanaethau i Wyddoniaeth.

Terence David Hands CBE – Cyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru; bu’n rhedeg y Royal Shakespeare Company am 20 mlynedd. Mae’n cael ei anrhydeddu am wasanaethau i’r Theatr.

Bleddyn Wynn-Jones – casglwr a meithrinwr planhigion, Gerddi Fferm Crug. Mae’n cael ei anrhydeddu am wasanaethau i Lysieueg a Garddwriaeth.

Yr Athro Tony Jones CBE, FRCA – adnabyddus yn rhyngwladol ym maes gweinyddu’r celfyddydau; dyn o Fôn sy’n Ganghellor y  School of Art Institute of Chicago. Mae’n cael ei anrhydeddu am wasanaethau i’r Celfyddydau.

John Gibb Marshall (sy’n cael ei nabod fel John Sessions) – actor ac awdur, ac un o raddedigion Bangor, wedi cael gyrfa actio nodedig – yn fwyaf diweddar bu’n actio Edward Heath yn y ffilm The Iron Lady. Mae’n cael ei anrhydeddu am wasanaethau i ddrama.

Yr Athro Catherine McKenna – Athro Ieithoedd a Llenyddiaeth Geltaidd, Prifysgol Harvard. Mae’n cael ei hanrhydeddu am wasanaethau i astudio ieithoedd a llenyddiaeth Geltaidd.

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Barry Jones – cyn AS Alun a Glannau Dyfrdwy, a gweinidog yn y Llywodraeth, ac un o raddedigion y Coleg Normal. Mae’n cael ei anrhydeddu am wasanaethau i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.